Mae dynion tân y Trallwng wedi recordio fersiwn newydd o ‘Do They Know It’s Christmas?’, er mwyn codi arian at Elusen y Diffoddwyr Tân ac Ymddiriedolaeth Elusen Band Aid.
Dyma’r gân aeth i rif un yn y siartiau Prydeinig tros y Dolig yn 1984, er mwyn codi arian i helpu’r newynog yn Ethiopia, ac ers hynny mae wedi ei recordio gan enwogion dair gwaith er mwyn codi arian at achosion da.
Ac mae un o ddiffoddwyr tân y Trallwng yn gobeithio mynd i rif un dros y Dolig gyda’u fersiwn nhw o ‘Do They Know It’s Christmas?’
“Dechreuodd y cyfan tua’r adeg hon y llynedd pan oeddem mewn bar yn y Trallwng. Y gân gyntaf a glywsom yn cael ei chwarae oedd ‘Do they know it’s Christmas?’,” meddai Chris Birdsell-Jones.
“Wrth i ni eistedd yno roedd pawb yn y bar yn canu neu’n curo’r bar i sŵn y gân, a dechreuais feddwl tybed a allem fynd ati i wneud rhywbeth ar gyfer elusen.
“Lleisiais fy syniadau, dim ond i bawb ddweud wrthyf fy mod yn breuddwydio! Ond ychydig ddyddiau yn ddiweddarach clywais y gân eto yn rhan o drac sain y ffilm, Daddy’s Home 2, a phenderfynais fod hynny’n arwydd, felly i ffwrdd â mi.”
Bydd The Fire Tones, sy’n cynnwys dros 40 o ddiffoddwyr tân a swyddogion eraill y gwasanaeth, yn cyhoeddi’r sengl ar Dachwedd 30.