Mae dau wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i gorff gael ei ddarganfod yn nwyrain Caerdydd ddoe (Tachwedd 22).

Cafodd y corff ei ddarganfod yn Llaneirwg am 7.15 y bore, wedi i’r heddlu gael eu galw i goedwig ger Brookfield Drive.

Bellach mae llanc 16 oed a dyn 27 yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n chwilio am ragor o bobol sy’n gysylltiedig â’r achos.

Cred yr heddlu mai corff dyn 32 oed o Gaerdydd sydd wedi’i ddarganfod, a bod y bobol sydd wedi’u harestio yn ei adnabod.

Dylai unrhyw un a oedd yn ardal Brookfield Drive rhwng 6.30 y bore, a 7.15 y bore, ar ddydd Iau (Tachwedd 22) gysylltu â Heddlu De Cymru.