Mae Cymru wedi sicrhau dros €100m o un o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu, meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.
Horizon 2020 yw’r rhaglen ymchwil ac arloesi fwyaf erioed i gael ei chynnal gan yr UE. Nod y rhaglen yw cefnogi technoleg a gwyddoniaeth arloesol a hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol.
Ers i’r rhaglen gael ei lansio mae busnesau a phrifysgolion yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn dros 2,800 o brosiectau cydweithredol rhyngwladol.
Mae’n rhoi “cyfle gwerthfawr” i fusnesau a phrifysgolion meddai Mark Drakeford.
“Pwyso i barhau i gael mynediad at Horizon 2020”
Yn ôl Mark Drakeford mae’r llwyddiant yn dangos pa mor bwysig yw “parhau i gael mynediad llawn at Horizon 2020 a’r rhaglen fydd yn ei holynu, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.”
“Byddwn ni’n parhau i bwyso ar y Llywodraeth yn San Steffan i sicrhau bod hyn yn rhan o unrhyw berthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.”
“Ein helpu i fod ar y blaen”
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyllid o bron i €1.5 miliwn ewro o brosiect Horizon 2020 i’w phrosiect QNets sy’n ymchwilio i sut y gellir harneisio pŵer cyfrifiadurol ffiseg cwantwm ar gyfer prosesu gwybodaeth mewn meysydd fel ffonau clyfar, dysgu peiriannau, a systemau dadansoddi data mawr.
Dywedodd Dr Markus Muller o Brifysgol Abertawe y bydd y cyllid yn “ein helpu i fod ar y blaen” yn y gwaith o “sefydlu paradeim newydd ar gyfer prosesu gwybodaeth cwantwm.”
Gallai gryfhau’n sylweddol gyfraniad y brifysgol i’r ymchwil Ewropeaidd sy’n datblygu’n gyflym ym maes technolegau cwantwm, gan sefydlu conglfaen newydd yn ein cymdeithas fodern sy’n seiliedig ar wybodaeth.”
Mae’r cwmni angori Qioptig Ltd yn Sir Ddinbych a Phrifysgol Caerdydd wedi sicrhau €635,000 o gyllid Horizon 2020 hefyd.