Mae un o wardiau Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd wedi gorfod cau am ddeuddydd oherwydd salwch stumog.
Mae pobol yn cael eu cynghori i beidio ag ymweld â Ward St Non oherwydd bod nifer o gleifion yn profi symptomau sy’n gysylltiedig â’r haint Gastroenteritis.
Mae symptomau’r salwch yn cynnwys cyfog a dolur rhydd.
‘Cadwch draw’
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n dioddef o’r symptomau hyn yn golchi a sychu eu dwylo’n drwyadl ar ôl bod i’r tŷ bach a chyn trin bwyd er mwyn atal yr haint rhag lledu.
“Mae salwch megis dolur rhydd a chwydu yn gallu pasio o un person i’r llall yn hawdd iawn ac rydym wedi cael gwybod bod Gastroenteritis hefyd ar led yn y gymuned,” meddai Sharon Daniel, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio y bwrdd iechyd.
“Rwyf yn annog pobol sy’n teimlo’n sâl neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â’r symptomau hyn i beidio ag ymweld â chleifion mewn ysbyty ar hyn o bryd am fod firysau’n medru bod yn ddifrifol i gleifion sâl a bregus.”