Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn bwriadu ystyried a ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau.
O dan gyfraith y Deyrnas Unedig, mae’r rhan fwyaf o garcharorion wedi’u gwahardd rhag pleidleisio, heblaw am y rheiny sydd ar drwydded dros dro neu wedi’u cyfyngu i’r cartref.
Ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, mae’r Cynulliad yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd a all newid pwy sy’n gymwys i bleidleisio.
Ar drothwy’r newidiadau hyn, mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, wedi gofyn i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau archwilio’r posibilrwydd o roi’r hawl i garcharorion bleidleisio.
“Mater dadleuol”
Yn ôl John Griffiths, cadeirydd y pwyllgor, mae “rhoi hawliau pleidleisio i garcharorion yn fater dadleuol a dw i’n siŵr y byddwn yn cael safbwyntiau holl ar hyn.”
“Mae’n bwysig ein bod yn clywed pob agwedd ar y mater hwn ac yn eu hystyried fel rhan o’n gwaith, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ymchwiliad hwn i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad.”
Ystyriaethau
Mae’r pwyllgor yn bwriadu ystyried yr opsiynau canlynol yn rhan o’u hymchwiliad:
- A ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio?
- A ddylai hawl carcharor i bleidleisio ddibynnu ar hyd ei ddedfryd, y math o drosedd a gyflawnodd, neu ei ddyddiad rhyddhau?
- Pa ddull fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn i garcharorion bleidleisio?
- Pa gyfeiriad y dylai carcharorion gofrestru er mwyn pleidleisio?
- A ddylai ystyriaethau arbennig fod yn berthnasol i droseddwyr ifanc os yw’r oedran pleidleisio’n gostwng i bobol rhwng 16 a 17 oed.
Bydd dyddiad cau ar gyfer ymgynghoriad y pwyllgor ar Ionawr 7.