Mae tri o uwch swyddogion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi eu carcharu am ddwyn miloedd o bunnau o’r pwrs cyhoeddus.

Mark Evill, Robert Howells a Michael Cope oedd ynghlwm â’r twyll, ac mi lwyddon nhw i ddwyn £700,000 o goffrau’r Gwasanaeth Iechyd.

Roedd Mark Evill, 47, wedi defnyddio enwau aelodau’r band U2 er mwyn dyfarnu cytundebau i’w gwmni adeiladu, ac mae wedi cael saith mlynedd o garchar.

Gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful, clywodd Robert Howells, 65, y byddai’n treulio pedair blynedd dan glo, a chlywodd Michael Cope, 43, y byddai’n treulio tair blynedd.

Roedd y tri yn Rheolwyr ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.