Mae’r Arglwydd Paddy Ashdown wedi datgelu ei fod yn derbyn triniaeth am ganser y bledren.

Bu yn arwain y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 1988 ac 1999, ac mi dderbyniodd ei ddiagnosis dair wythnos yn ôl.

“Mae pawb yn Ysbyty Yeovil yn edrych ar fy ôl yn wych, ac mae gen i hyder llwyr ynddyn nhw,” meddai. “Cawn weld beth fydd yn digwydd. Mae’n anodd rhagweld gyda phethau fel hyn.

“Dw i wedi brwydro sawl gwaith ar hyd fy oes. Y tro yma dw i’n ddigon lwcus i gael help ein hysbyty lleol gwych, a fy nheulu a fy ffrindiau. Mae hynny’n fy ngwneud yn hyderus iawn.”

Mae Syr Vince Cable, Arweinydd presennol y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi dymuno’r gorau iddo, ac wedi ei gofleidio am droi’r blaid mewn i “garfan gref seneddol”.