Mae heddwas wedi’i gael yn ddieuog o ymosod, ar ôl achos yn Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr eleni.
Fe gafodd y Cwnstabl Paul Evans, o Heddlu De Cymru, ei ddyfarnu’n ddieuog yn Llys Ynadon Caerdydd o ddefnyddio gormod o fôn braich wrth arestio bachgen yn ei arddegau.
Roedd yr IOPC, y corff annibynnol sy’n ymchwilio i achosion yn ymwneud â’r heddlu, wedi argymell bod achos i’w ateb, ac fe aeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ymlaen i erlyn PC Evans.
Mae’r IOPC nefyd wedi dod i’r casgliad y dylai’r heddwas wynebu honiad o gamymddwyn difrifol. Mae hynny’n destun trafodaeth rhwng Heddlu De Cymru a’r corff ar hyn o bryd.