Fe fydd tri dyn yn ymddangos yn y llys ar ôl ymosodiad â cherbyd tu allan i fosg Al-Majlis Al-Hussaini yn Cricklewood, Llundian, fis diwethaf.

Cafodd dau ddyn yn eu 20au fân anafiadau, ac fe gafodd dyn yn ei 50au ei gludo i’r ysbyty gydag anaf difrifol i’w goes.

Methodd y car â stopio ar Oxgate Lane, ger Edgware Road, ar Fedi 19, a bu’nrhaid i’r heddlu gael eu galw am tua 12.35yb.

Mi fydd Martin Stokes, Martin McDonagh, a Michael O’Donnell, o Wembley,yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Willesden heddiw (dydd Iau, Hydref 25).