Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd yn derbyn cymorth ariannol.
Daw hyn yn dilyn Storm Callum y penwythnos hwn, gyda rhai ardaloedd yn y de-orllewin yn gweld y llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd.
Mae naw rhybudd am lifogydd yn parhau mewn grym yn yr ardaloedd hyn, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw am gynnal adolygiad i’r holl amddiffynfeydd llifogydd sydd yno.
Ond yn ôl Andrew RT Davies wedyn, sef llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion amgylcheddol, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau cymorth ariannol i fusnesau a thrigolion sydd wedi’u taro gan y tywydd garw.
‘Angen arian, nid cydymdeimlad’
“Mae angen dysgu gwersi o’r trychineb sydd wedi cael ei hachosi o’r llifogydd garw hyn, ac mae’r rheiny sydd wedi’u heffeithio eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu – ac nid cydymdeimlo yn unig,” meddai.
“Tra bo adolygiad [gan Gyfoeth Naturiol Cymru] yn cael ei groesawu, mae angen cymorth yr ar awdurdodau lleol oddi wrth Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr isadeiledd hanfodol yn cael ei adfer cyn gynted â phosib…
“Mae nifer o fusnesau, cartrefi a chymunedau wedi cael eu taro’n wael dros y penwythnos, ac mae’n hanfodol bod cymorth ariannol ar gael yn syth ar gyfer y difrod y mae nifer wedi’i ddioddef.”