Fydd yna ddim siop deisennau Patagonaidd yn cael ei sefydlu yn nhref hynaf Cymru – er bod y cyngor sir wedi gosod arwydd ‘Patisserie Patagonia’ ar adeilad gwag yng Nghaerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Gâr wedi cadarnhau wrth golwg360 heddiw bod arwyddion dychmygol yn rhan o ymgyrch ganddyn nhw i ddenu datblygwyr i feddwl pa fath o fusnesau y gellid eu datblygu er mwyn bywiogi’r strydoedd.
“Mae’n digwydd ers tua dwy flynedd,” meddai llefarydd ar ran yr awdurdod. “Mae Cyngor Sir Gâr wedi bod yn gosod enwau a sticeri ar adeiladau gwag y dref, gyda’r nod o ddenu darpar ddatblygwyr.
“Mae’n rhan o fenter beilot, a tan yn ddiweddar roedd yna sticer fawr ar ffenestr y ‘Patisserie’ oedd yn adlewyrchu sut fyddai’r adeilad yn edrych petasai yna siop goffi y tu fewn.”
Mae disgwyl i arwydd y siop deisennau gael ei dynnu i lawr yn y dyfodol agos, meddai’r cyngor wedyn.