Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’u cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chaethwasiaeth fodern mewn parlwr hufen iâ yn ninas Bryste.

Mae Robert Lopresti, 45, a Salvatorie Lopresti, 74, wedi’u cyhuddo o orfodi unigolyn i weithio dan amodau sy’n mynd yn groes i’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Mae Salvatorie Lopresti hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod ac o achosi niwed corfforol i’r dioddefwr honedig.

Mae’r cyhuddiadau yn nodi i’r troseddau gael eu cyflawni yn Lopresti Ice Cream yn Bedminster, Bryste rhwng Ionawr 2009 a Rhagfyr 2016.

Does yr un o’r ddau wedi cyflwyno plê.