Mae goruchaf lys India wedi rhoi sêl ei fendith i gais i anfon Mwslimiaid Rohingya yn ol gartref i Myanmar.

Mae hynny’n golygu bod yr apêl ar iddyn nhw gael aros yn y wlad oherwydd bod eu pobol yn cael eu herlid yn yr hen Burma, wedi’i gwrthod. Fe gawson nhw eu harestio yn 2012 am ddod i mewn i India heb ganiatâd.

Mae’r goruchaf lys wedi gorchymyn eu bod nhw i gael eu trin fel ffoaduriaid yn hytrach nag fel mewnfudwyr anghyfreithlon, a’u bod yn cael eu trin yn weddus yn ystod y broses o’u danfon allan o India trwy dref Mordeh.

Mae tua 700,000 o Fwslimiaid Rohingya wedi dianc i Bangladesh er mwyn osgoi’r trais yn eu herbyn dan law byddin Myanmar. Credir bod tua 40,000 wedi croesi’r ffin i India wrth chwilio am loches.