Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cannoedd o swyddi y tu hwnt i Gaerdydd trwy symud rhai o’i hadrannau oddi yno.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae allfudo yn un o’r prif heriau sy’n wynebu’r Gymraeg ar hyn o bryd, wrth i bobol ifanc adael eu cymunedau i chwilio am waith.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod gan yr iaith “statws israddol” o fewn y gwasanaeth sifil, gan mai dim ond isadran – sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd – sydd ganddi.
“Dyw’r cydbwysedd ddim yn iawn”
“Mae datganoli swyddi allan o Gaerdydd yn bwysig o ran sicrhau bod gennym economi ac iaith gynaliadwy a ffyniannus ledled y wlad,” meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith.
“Dyw’r cydbwysedd ddim yn iawn ar hyn o bryd. Hefyd, wrth siarad gyda nifer o grwpiau eraill, mae’n glir nad oes digon o ddylanwad gan Isadran y Gymraeg bresennol y Llywodraeth.
“Mae beirniadaeth hefyd fod yr uned yn rhy Gaerdydd-ganolog ei meddylfryd, sy’n gallu, ac wedi, bod yn broblem o ran llunio’r polisïau gorau i’r iaith.
“Felly, mae dadl gref dros y newid yma.”
Symud adrannau
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am symud cannoedd o swyddi drwy naill ai sefydlu neu adleoli’r cyrff canlynol mewn ardaloedd y tu hwnt i’r brifddinas:
- Adran Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru;
- Awdurdod Darlledu Cymru;
- Arolygiaeth Cynllunio Cymru;
- Corff Datblygu Economaidd;
- Cwmni Ynni Cenedlaethol.
Maen nhw hefyd eisiau gweld adrannau eraill yn cael eu symud, gan gynnwys adrannau amaeth, addysg ac economi.
Mae’r galwadau hyn yn rhan o’r ddogfen bolisi, ‘Gwaith i Adfywio Iaith’, a fydd yn cael ei chyhoeddi yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ym Mlaenau Ffestiniog ar Hydref 13.