Fe fydd bwytai’r stryd fawr yn cael eu gorfodi i roi’r holl arian sy’n cael ei roi gan gwsmeriaid i’w staff, meddai Theresa May.
Fe fydd deddfwriaeth newydd yn atal cyflogwyr rhag cymryd cyfran o’r arian sy’n cael ei adael i’w staff gan gwsmeriaid. Daw ar ôl i aelodau o’r cyhoedd fynegi siom am y modd mae rhai cwmnïau yn delio gyda tips ar gyfer staff, gyda rhai yn cadw cyfran o’r arian.
Mae Belgo, Bella Italia, Cafe Rouge, Giraffe, Prezzo a Strada ymhlith y bwytai stryd fawr sydd wedi cadw 10% o’r arian, tra bod bwytai Zizzi ac Ask wedi cadw 8%.
Fe gynhaliodd gweithwyr bwytai TGI Fridays gyfres o streiciau yn gynharach eleni mewn anghydfod dros gyflogau.
Yn ol Theresa May fe fydd y diwygiadau yn dod i rym ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban ac yn rhan o waith y Llywodraeth i sicrhau bod cyflogwyr ddim yn ecsbloetio eu staff.
Mae undeb Unite, sydd wedi bod yn ymgyrchu am y newidiadau yma, yn dweud y byddan nhw’n ceisio cael sicrhad gan weinidogion “y bydd deddfwriaeth y Llywodraeth yn sicrhau taliadau teg i weithwyr ar y cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig”.