Mewn blwyddyn mae arddangosfa sy’n anrhydeddu cyn-swyddog yr heddlu ym Morgannwg a Chastell-nedd, a ddaeth a’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben ynghynt na’r disgwyl gan arbed 500,000 o fywydau, wedi denu dros 100,000 o ymwelwyr.

Symudwyd yr arddangosfa o Ganolfan Dreftadaeth Heddlu De Cymru i Amgueddfa’r Firing Line yng Nghastell Caerdydd flwyddyn yn ôl.

Mae’n adrodd hanes yr is-gapten Ernest Rollings, sef y dyn sy’n cael ei adnabod fel yr un a ddaeth â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben, wedi iddo ddod ar draws papurau cyfrinachol ynglŷn ag amddiffynfeydd Byddin yr Almaen.

 “Wrth ein bodd”

“Mae’r Firing Line wrth ein bodd gyda’r ymateb i Arddangosfa Ernest Rollings,” meddai Rachel Adams, Curadur Amgueddfa’r Firing Line.

“Mae nifer yr ymwelwyr wedi rhagor ar ein disgwyliadau ac rydym wedi gweld ymateb poblogaidd i’r arddangosfa gan y rhai sy’n dod i’r amgueddfa yn benodol i’w gweld.”

Hanes

Yn 1918, fe arweiniodd Ernest Rollings ddau gar durblat i bencadlys Almaenig yn Ffrainc, gyda’r gorchymyn i ddwyn dogfennau oddi yno.

Nid oedd y milwr a’r heddwas o Gymru yn medru’r Almaenig, ac ni ddaeth i wybod am bwysigrwydd y dogfennau am flynyddoedd wedyn.

Ond daeth i’r amlwg eu bod yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn nodi pob un o amddiffynfeydd Byddin yr Almaen ar Linell Hindenburg.

Daeth yn bosib wedyn i Fyddin Prydain gynnal cyrch anferth a arweiniodd yn y pen draw at yr Almaen yn ildio ac yn arwyddo cytundeb heddwch.

Mae lle i gredu bod gweithred Ernest Rollings wedi arbed tua 500,000 o fywydau trwy ddod â’r rhyfel i ben ynghynt.

Yn dilyn y rhyfel, fe ddychwelodd i’w waith fel heddwas ym Morgannwg.