Mae tua 1,000 o brifathrawon wedi casglu yn Llundain er mwyn gorymdeithio i Stryd Downing.
Maen nhw yn dadlau bod angen gwario mwy ar ysgolion er mwyn gallu datrys materion megis dosbarthiadau gorlawn, trafferthion recriwtio a dal gafael ar staff ac amodau gwaith gwael.
Mae’r Ysgrifennydd Addysg Cysgodol yn cefnogi’r brotest.
“Nid oes cynsail i’r math yma o weithredu gan brifathrawon, ac mae yn arwydd clir o’r trafferthion mawr maen nhw yn wynebu wrth geisio darparu addysg gall tra’n ceisio osgoi gorwario,” meddai Angela Rayner.
“Daeth yr amser i weinidogion wrando ar y neges glir o’r cymunedau ar draws y wlad – maen nhw wedi cael llond bol ar doriadau i gyllidebau eu hysgolion.”
Mae nifer yr ysgolion uwchradd yn Lloegr sy’n gwneud colled ariannol wedi treblu mewn pedair blynedd, yn ôl ystadegau Sefydliad Polisi Addysg.
Ond yn ôl Llywodraeth Prydain maen nhw yn gwario mwy nag erioed ar ysgolion, ac erbyn 2020 mi fyddan nhw yn gwario £43.5 miliwn – “50% yn fwy mewn termau real y pen nag yn 2000” meddai llefarydd.