Bydd Tlws Mary Vaughan Jones am eleni yn cael ei roi i’r diweddar Gareth F Williams.

Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Mae T Llew Jones, Angharad Tomos a Siân Lewis ymhlith y rhai sydd wedi derbyn y wobr yn y gorffennol, ond eleni fe fydd yn cael ei roi i Gareth F Williams, a fu farw yn 2016 yn 61 oed.

“Cyfraniad amhrisiadwy”

Yn ôl Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwydd Darllen y Cyngor Llyfrau, roedd Gareth F Williams yn “allweddol yn natblygiad llenyddiaeth plant a phobol ifanc yng Nghymru.”

“Mae’n anodd mesur maint ei ddylanwad dros y blynyddoedd,” meddai.

“Wrth ei anrhydeddu â’r tlws hwn – yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru – rydym yn cydnabod ei gyfraniad amhrisiadwy ac yn diolch am ei waith dros nifer o flynyddoedd.”

Gyrfa

Cafodd Gareth F Williams ei fagu ym Mhorthmadog, ac ar ôl derbyn addysg ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Cartrefle yn Wrecsam, bu’n gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon.

Rhoddodd y gorau i’r swydd honno yn 1985 er mwyn troi’n awdur proffesiynol, a bu’n ysgrifennu ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, gan gyfrannu at gyfresi poblogaidd fel Pengelli a Rownd a Rownd ar S4C.

Bu hefyd yn ennill ei fara menyn fel awdur, ac yn ystod y chwarter canrif ddiwetha’ fe ysgrifennodd dros 20 o gyfrolau ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion.

Enillodd Wobr Tir na n-Og chwe gwaith, gyda’r tro ola’ yn 2015 pan ddaeth ei nofel Awst yn Anogia i’r brig.

Bu’n byw am gyfnodau yn Beddau ger Pontypridd, cyn ymgartrefu yn Silstwn, Bro Morgannwg.

“Byddai Gareth mor falch”

“Byddai Gareth mor falch o dderbyn y wobr hon,” meddai’r awdures, Bethan Gwanas.

“Roedd wrth ei fodd yn ysgrifennu ar gyfer plant a phobol ifanc, a llwyddodd i swyno, dychryn ac ysbrydoli cenedlaethau o ddarllenwyr yn ystod ei yrfa.”

Bydd Tlws Mary Vaughan Jones am 2018 yn cael ei gyflwyno i deulu Gareth F Williams mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion ar Hydref 18.