Mae ffotograffydd o Wynedd yn dweud bod llun a stori “cyn bwysiced â’i gilydd” ym maes newyddiaduriaeth… a bod hynny’n wir yn Golwg yn 1988.
Mae Gerallt Llewelyn o Garmel ger Caernarfon wedi bod yn ffotograffydd proffesiynol ers bron i ddeugain o flynyddoedd, ac roedd yn un o gyfranwyr cynta’ cylchgrawn Golwg dri deg mlynedd yn ôl.
Mae’n dweud bod ffotograffiaeth a newyddiaduriaeth yr un fath, mewn sawl ffordd, gan fod y ddwy grefft yn ymwneud â phobol a’u hardaloedd.
“Cyfleu be’ sy’n digwydd”
“Mae newyddiaduriaeth yn ymwneud efo pobol,” meddai wrth golwg360. “Dyna be ydi newyddiaduriaeth, cyfleu be’ sy’n digwydd i’r bobol a’r ardaloedd ac yn y blaen.
“Y gwahaniaeth [rhwng newyddiadurwr a ffotograffydd], ydi bod un yn sgwennu i lawr ar bapur ac mae’r llall yn ei gyfleu o trwy luniau. Mae’r ddau cyn bwysiced.
“Roedd yna ryw stigma ers talwm – a dal i fod – bod rhai sgrifennwyr yn bwysicach na ffotograffwyr, ond rhyw lol botas ydi hynny.”
Newid mewn technoleg
Yn ôl Gerallt Llewelyn, mae maes ffotograffiaeth wedi gweld datblygiadau technolegol mawr dros y blynyddoedd, gyda nifer o’r rheiny’n fanteisiol ac yn anfanteisiol i’r grefft o dynnu llun.
“Mae o wedi bod yn help yn ymarferol,” meddai wedyn. “Does dim rhaid datblygu ffilm neu brint mewn stafell dywyll sy’n cymryd amser. Rŵan mae rhywun yn tynnu ac mae o yna.
“Yr anfantais ydy bod y grefft wedi mynd yn llwyr. O’r blaen, byddai rhywun yn pwyso a mesur llawer mwy cyn tynnu llun oherwydd, o reidrwydd, yn yr hen ddyddia roedd rhywun efo camera 12 shot, ac roedd rhywun yn gorfod gwneud y job o fewn y 12 shot yna.”