Mae Hywel Gwynfryn yn dweud mai ysgrifennu colofnau wythnosol i gylchgrawn Golwg a fagodd ynddo’r hyder i ysgrifennu ymhellach.
Mae Hywel Gwynfryn wedi bod yn wyneb ac yn llais cyfarwydd yn y byd darlledu ers dros hanner canrif, ac mae hefyd wedi ysgrifennu cofiannau i Ryan a Ronnie, a Margaret Williams.
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn golofnydd Golwg ar ddiwedd yr 1980au, mae’r darlledwr a’r cyflwynydd yn dweud bod y cyfnod hwnnw o ysgrifennu’n gyson wedi bod yn “brofiad gwych”.
“Byr ac i’r pwynt”
“Mae’n brofiad da pan ydach chi’n sgrifennu rhywbeth yn fyr ac i’r pwynt,” meddai wrth golwg360. “Does ganddoch chi ddim amser i ragymadroddi o gwbwl.
“Dw i ddim yn cofio faint o eiriau yr o’n i’n ei gael; weithiau, roedd o’n ddwywaith yr hyn oeddan ni eisio pan oedd y syniadau’n brin, ond fel arall ro’n i’n teimlo, ‘damia, biti nad oes gen i ddim rhyw baragraff arall’.
“Faswn i’n mynd mor bell â dweud mai sgrifennu’r golofn i Golwg a gorfod gwneud hynny yn rheolaidd, ddaeth â’r hwb i mi wedyn i fynd ymlaen i sgrifennu’r ychydig gofiannau yr ydw i wedi’u gwneud, felly yn hynny o beth mi oedd o’n brofiad gwych.”
Siarad â’r gynulleidfa
Yn ôl Hywel Gwynfryn, roedd ei golofnau gan amlaf yn cynnwys y dull o chwarae ar eiriau, ac yn aml iawn roedd yn ysgrifennu colofn o gwmpas gair neu ymadrodd a oedd yn dod i’w feddwl.
Mae hefyd yn dweud mai’r hyn yr oedd yn ceisio ei wneud oedd “siarad trwy’r golofn gyda fy nghynulleidfa”.
“Doedd o ddim yn llenyddol mewn unrhyw ffordd,” meddai wedyn. “Ro’n i am i bobol fwy neu lai glywed be’ oedd yn fy mhen i ar bapur. Fel y dywedodd Gerallt Lloyd Owen: ‘I glywed llais a gweld llun’.
“Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fod siarad ar y radio i mi yn llawer haws.
“Roeddwn i’n meddwl y byd o’m colofn, felly roeddwn i’n rhoi, falla, ormod o amser i geisio cael y golofn honno mor berffaith ag y medrwn i ei chael hi.
“Yn hynny o beth, roedd yna fwy o waith o lawer mewn creu colofn nag sydd mewn siarad ar y radio.”