Roedd y gwaith o baratoi rhifynnau cynnar cylchgrawn Golwg, gan ddefnyddio technoleg ddiwedd yr 1980au, yn “heriol iawn” i’r dylunydd ar y pryd, Gwyn Rowlands.
Mae’r gŵr sydd bellach yn bennaeth adran y celfyddydau a’r cyfryngau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, yn cofio’r dyddiau pan fu’n rhaid iddo osod stripiau o deip at ei gilydd wrth baratoi’r cylchgrawn wythnosol.
“Roedd o’n dipyn o her, oherwydd mae rhywun yn meddwl am y fath o dechnoleg sydd ar gael rŵan,” meddai Gwyn Rowlands wrth golwg360.
“A hefyd, roedd yna dîm bach o bobol yn gwneud y gwaith i gyd, so roedd rhywun yn gorfod cynllunio’n ofalus gyda ffotograffwyr ac yn aml iawn basa petha yn dod i mewn yn hwyr.
“Roedd yr oriau yn faith iawn, o be dw i’n gofio.”
Llanbedr Pont Steffan
Yn ôl Gwyn Rowlands, a fu’n gweithio i gwmnïau yn Llundain cyn ymuno â Golwg Cyf, roedd dod i Lanbedr Pont Steffan ddiwedd yr 1980au yn “culture shock” iddo.
Ond er i feddalwedd gyfrifiadurol newydd ddod i hwyluso’r gwaith o fewn y misoedd cynta’, roedd y gwaith yn parhau’n “heriol”, meddai wedyn.
“Yn y blynyddoedd cynnar, ddaru Adobe PageMaker gael ei ddatblygu, so roedden ni’n defnyddio’r meddalwedd yna a oedd yn eitha’ cyntefig.
“Roedd o’n anodd iawn weithiau o ran cysodi i gael pethau i weithio yn union fel oedd rhywun eisio.
“Wrth gwrs, doedd ansawdd sgriniau cyfrifiaduron ddim chwaith be ydyn nhw rŵan, so roedden ni’n dal yn ddibynnol iawn ar dechnegau traddodiadol dylunio graffeg…”
Anffawd cyn y cyhoeddi cynta’
Un stori na wnaeth gyrraedd tudalennau’r cylchgrawn yw’r un am Gwyn Rowlands yn cael ei daro’n sâl ychydig cyn i’r rhifyn cyntaf adeg yr Eisteddfod Genedlaethol gael ei gyhoeddi.
“Roeddwn i jyst wedi cychwyn gwaith arno fo, ac wedyn fe ges i burst appendix,” meddai. “Roedd hwnna dw i’n meddwl yn yr wythnosau cynta’.
“Roedd hwnna’n dipyn o her i Dylan [Iorwerth] a gweddill y tîm, achos roeddwn i wedi dod â’r cynllun at ei gilydd.
“Roedden ni wedi gorfod defnyddio dylunydd arall i ddod i mewn i weithio ar y templedi a’r diwyg yr oeddwn i wedi penderfynu arno.
“Ond wedyn, pan ddois i’n ôl, roedd hi’n fflat owt trwy’r amser.”