Mae tri o Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i Adam Price yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Mae Liz Saville Roberts a Hywel Williams wedi ymuno â Jonathan Edwards trwy gefnogi Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr i fod yn arweinydd. Mae’r Aelod Seneddol dros Geredigion, Ben Lake, yn cefnogi Rhun ap Iorwerth.
Mewn datganiad ar y cyd, dywed y ddau Aelod Seneddol o ogledd Cymru fod gan Adam Price “record hir o ymladd yn ymarferol dros bobol Cymru a thros egwyddorion a gwerthoedd creiddiol Plaid Cymru”.
“Daeth y dydd”
“Rydym yn falch fod gan ein Plaid bobol o’r fath safon â’r tri ymgeisydd,” meddai Hywel Williams a Liz Saville Roberts.
“Yn ddiau mae gan y ddau arall gyfraniad mawr pellach i’w wneud. Ond, mewn cyfnod mor gynhyrfus a pheryglus i’n cenedl, credwn mai gan Adam mae’r rhagorach weledigaeth a’r gallu i arwain.
“Dangosodd Adam o’r cychwyn cyntaf fod ganddo’r dewrder a’r weledigaeth hanfodol rhyw ddydd i arwain ein plaid. Daeth y dydd. Rydym yn falch o ddatgan ein cefnogaeth i Adam Price fel Arweinydd nesaf Plaid Cymru, a galwn ar ein cyd aelodau i’w gefnogi hefyd.”
Cefnogaeth
Daw cefnogaeth y ddau Aelod Seneddol ar drothwy cyfarfod ym Mhontypridd heno (dydd Mawrth, Medi 4), lle bydd cyfle i aelodau Plaid Cymru holi cwestiynau i’r tri ymgeisydd.
Yn y cyfamser, mae’r cyn-Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd, wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi Rhun ap Iorwerth.
Mae disgwyl i enw arweinydd newydd Plaid Cymru gael ei gyhoeddi ar Fedi 28.