Mae ysgol gynradd yn nwyrain Llundain wedi cael ei difrodi gan dân yn ystod y nos.
Mae Brigâd Dân Llundain (LFB) yn dweud bod tua 80 o ymladdwyr a deuddeg injan dân wedi cael eu galw i Ysgol Gynradd Roding yn Dagenham ers 4.50yb heddiw (Medi 4).
Mae’n debyg bod tua hanner adeilad yr ysgol wedi’i lyncu gan y fflamau.
Ar hyn o bryd, does dim gwybodaeth ynglŷn â sut dechreuodd y tân, ond mae wedi denu criwiau tân o ardaloedd Dagenham, Barking ac Ilford.
Roedd disgwyl i blant ddychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf yfory (dydd Mercher, Medi 5), yn ôl gwefan yr ysgol.