Mae un o’r tri ymgeisydd yn y ras i arwain Plaid Cymru yn honni y gall ennill annibyniaeth i Gymru erbyn 2030.

Mewn neges at aelodau Plaid Cymru, mae Adam Price yn amlinellu saith cam y mae’n honni y gall Cymru ei gymryd i gyrraedd nod o’r fath.

“Mae’n rhaid i unrhyw un sydd am arwain ein plaid fod â chynllun credadwy er mwyn ennill annibyniaeth,” meddai.

“Ni fydd polisïau anghyflawn a datganiadau bachog yn mynd â ni i ben ein taith.

“Mae gwleidyddiaeth Cymru yn frwydr rhwng y rheini sydd â hen syniadau, y rheini sydd â syniadau newydd a’r rheini sydd heb syniadau o gwbl.”

Y ddau ymgeisydd arall am arweinyddiaeth Plaid Cymru yw’r arweinydd presennol Leanne Wood, a Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn.

Cynllun 7 cam Adam Price

  1. Ethol llywodraeth Plaid Cymru yn 2021
  2. Refferendwm ar annibyniaeth yn 2030
  3. Sefydlu Comisiwn Cenedlaethol i baratoi at y refferendwm, comisiwn a fydd yn “rhoi llais i ddinasyddion Cymru am sut wlad fydd y Gymru annibynnol”
  4. Ailethol llywodraeth Plaid Cymru arall yn 2026
  5. Lleihau’r bwlch rhwng incwm a gwariant Cymru. “Erbyn 2030, bydd ein bwlch ffisgal yn gynaliadwy a byddwn wedi profi nad yw Cymru’n rhy fath i sefyll ar ei thraed ei hunan,” meddai.
  6. Tyfu economi Cymru
  7. Adeiladu cyfryngau Cymreig newydd.

Tair plaid yn chwilio am arweinwyr

Mae Adam Price yn un o hyd at 10 o Aelodau Cynulliad sy’n ymgyrchu dros arwain eu pleidiau ar hyn o bryd, wrth i’r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a Llafur chwilio am arweinwyr newydd. Fe fydd Golwg360 yn parhau i adrodd ar ymgyrchoedd pawb o’r ymgeiswyr dros yr wythnosau nesaf.