Mae’r heddlu wedi cyhoedd ail apêl am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad angheuol yn ne Meirionnydd fore Llun.

Cafodd yr heddlu eu galw’n fuan wedi 11am ar ôl i dri cherbyd – Land Rover Defender gwyrdd, Vauxhall Corsa arian a Ford Focus du – fod mewn gwrthdrawiad â’i gilydd ar ffordd y B4405 ger Tal y Llyn.

Roedd y ddynes a oedd yn teithio yn y Corsa wedi marw yn y fan a’r lle.

Meddai Rhingyll Trystan Bevan o Uned Plismona’r Heddlu: “Rydym yn awyddus i siarad â gyrrwr  lori las, a oedd o bosib yn cario coed. Roedd y cerbyd hwn yn teithio o flaen y cerbydau uchod yn fuan cyn y gwrthdrawiad ac yn teithio i gyfeiriad Tywyn.

“Dw i’n gofyn i unrhyw dyst a welodd y gwrthdrawiad ac nad yw wedi cysylltu â ni eto i wneud hynny cyn gynted â phosib i’n helpu gyda’r ymchwiliad.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd gan ddyfynnu’r cyfeirnod W118044.