Mae pennaeth Cymdeithas Pêl-droed Palestina wedi cael ei wahardd rhag mynychu gemau rhyngwladol, am gynnal ymgyrch o “gasineb a thrais”.

Yn ôl Fifa – y corff pêl droed rhyngwladol – roedd Jibril Rajoub wedi ceisio codi braw ar dîm cenedlaethol yr Ariannin er mwyn eu rhwystro rhag chwarae yn erbyn Israel.

Mae’r corff yn nodi bod y pennaeth wedi galw ar gefnogwyr i “dargedu Cymdeithas Bêl-droed yr Ariannin trwy losgi crysau’r wlad a lluniau [o’i chwaraewr] Lionel Messi.”

Yn y pendraw mi wnaeth yr Ariannin ganslo’r gêm oherwydd eu bod yn teimlo “amarch”, yn ôl gweinidog tramor y wlad, Jorge Faurie.

Bydd Jibril Rajoub yn derbyn dirwy £15,000, ac yn cael ei wahardd o Gwpan Asiaidd 2019 yn yr Emiraethau Unedig Arabaidd.