Roedd Gŵyl Gwydir ger Llanrwst yn llwyddiant mawr dan ei fformat newydd yn ôl trefnwyr, sy’n addo y bydd yn dychwelyd y flwyddyn nesaf.
Daeth 200 yno ar y nos Wener, a 450 i fwynhau’r arlwy ar y Sadwrn, meddai Gwion Schiavone.
Cynhaliwyd yr ŵyl mewn lleoliad newydd penwythnos diwetha’ ar gae rygbi Nant Conwy, ac ar un pryd roedd amheuaeth a fyddai’n mynd yn ei blaen neu peidio oherwydd llifogydd difrifol yn yr ardal.
Er bod y tywydd wedi parhau’n gyfnewidiol trwy’r penwythnos, ni effeithiodd yn ormodol ar y trefniadau na’r gynulleidfa a ddaeth i gefnogi yn ôl y prif drefnydd.
“Roedd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol yn y ffaith ei bod mewn lleoliad newydd, bod y fformat yn wahanol a’n bod wedi ei ehangu” meddai’r Gwion Schiavone wrth Golwg360.
“Bu’r llifogydd yn fygythiad gwirioneddol i rai o’r cynlluniau ar un pryd, a doedd y tywydd ddim yn rhy garedig trwy’r penwythnos i ddweud y gwir, ond wnaeth hynny ddim rhoi pobol mewn hwyliau drwg.”
“I’r gwrthwyneb really, roedd yr awyrgylch yn arbennig o dda a’r bandiau’n hapus efo’r ymateb dwi’n meddwl.”
Yn sicr o ddigwydd blwyddyn nesaf
Yn ôl y trefnwyr, mae Gŵyl Gwydir yn sicr o gael ei chynnal eto’r flwyddyn nesaf.
“Roedd yn llwyddiant yn y ffaith ein bod ni wedi llwyddo i gyfro costau, a hynny heb geiniog o nawdd cyhoeddus” meddai Gwion Schiavone.
“Rydan ni’n gwybod hynny i sicrwydd rŵan sy’n gysur mawr.
“Mae’n dangos fod modd i ddigwyddiad cerddorol Cymreig lwyddo heb nawdd ond i chi gael criw da o wirfoddolwyr i weithio’n galed.
“Fe fydd yn bendant yn digwydd blwyddyn nesaf, ac mae’n debygol y byddwn ni’n sticio i’r un dyddiad a fformat uchelgeisiol.”