Ddiwrnod yn unig cyn y cyfweliadau i benodi Prif Weithredwr newydd S4C, mae AS wedi beirniadu’r ffordd mae’r broses benodi’n mynd rhagddi ac wedi beirniadu’r “berthynas rhwng ASau o’r glymblaid a’r sianel.”
Fe ddywedodd Alun Cairns, yr Aelod Seneddol Ceidwadol wrth Golwg360 fod ganddo “bryderon mawr dros apwyntiad y Prif Weithredwr” yfory.
“Ma’ fe’n gywilyddus bod Winston Roddick yn mynd i fod ar y panel ac mae fe’n gwbl anghywir hefyd bod yr Awdurdod i gyd yn cyfweld,” meddai Alun Cairns.
“Beth os gawn ni bleidlais o bump i bedwar dros un ymgeisydd yn erbyn y llall?
“Dyle bod yr Awdurdod wedi rhoi cefnogaeth i Huw Jones y Cadeirydd arwain yr apwyntiad gydag un neu ddau arall o’r Awdurdod i gefnogi ac i fod yn rhan o’r cyfweliad – a rhywun yn amlwg, sydd heb fod yn rhan o’r ffrae gyhoeddus dros y flwyddyn ddiwethaf – ac yn sicr, nid ffrindiau agos y Prif Weithredwr dros dro sydd yno ar hyn o bryd,” meddai Alun Cairns.
Dadl penodi
Eisoes, mae Guto Bebb, AS Aberconwy, wedi dweud ei fod wedi ysgrifennu at Huw Jones, Cadeirydd yr Awdurdod, gan ddweud na ddylai’r bargyfreithiwr Winston Roddick QC fod ar y panel am ei fod wedi datgan diddordeb oherwydd ei gyfeillgarwch gydag un o’r ymgeiswyr.
Mae Winston Roddick QC yn un o naw aelod o’r Awdurdod fydd ar y panel wrth gyfweld yr ymgeiswyr yfory.
Mae Golwg 360 wedi cael ar ddeall fod Arwel Ellis Owen, y Prif Weithredwr dros-dro, Rhodri Williams, Aled Eurig, a Geraint Rowlands ymysg yr enwau sy’n debygol o gael eu cyfweld.
Fe wnaeth Winston Roddick gadarnhau wrth Golwg360 y bydd ar y panel penodi yfory gan ddweud mai dyna yw ei “swyddogaeth” – er ei fod wedi dweud mewn datganiad diddordeb wrth gael ei benodi i’r swydd ei fod yn ffrind i Arwel Ellis Owen.
“…Dyna pam ‘dw i wedi datgan fel bod pawb yn gwybod amdano. Mae’r broses yn agored, mae yna nifer ohonom ni. Bydd pob aelod yn bresennol, fe fydd ‘na bobl annibynnol yn bresennol i gyd yn edrych dros ein hysgwyddau ni er mwyn cadarnhau bod y broses yn deg,” meddai cyn dweud nad yw “erioed wedi gweld proses yn cael ei chynnal mewn ffordd mor deg â hon”.
“Fe fydd gofyn i bob aelod o’r awdurdod wneud datganiad o unrhyw ddiddordebau neu gysylltiadau cyn cychwyn y cyfarfod,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360.
‘Cefnogi’r cadeirydd i arwain y penodiad’
“Dydw i ddim yn gwybod am unrhyw Awdurdod cyhoeddus sydd yn rhedeg ei faterion fel hyn. Dylai aelodau’r Awdurdod gefnogi’r cadeirydd i arwain y peth,” meddai Alun Cairns wrth Golwg360.
“Ma’ fe’n gwbl anghywir o feddwl yr amgylchiadau. Mae e’n gwbl groes bod Winston Roddick a rhai eraill yn rhan o’r apwyntiad wrth fod ffrind agos yn gwneud y rôl ar hyn o bryd ac yn cael ei gyfweld….Mi fydd ’na gwmwl dros apwyntiad Arwel os fydd e’n cael y job yn sicr,” meddai.