Candelas. Llun - Heledd Roberts
Mae’r grŵp ifanc o ardal Y Bala, Candelas, yn rhyddhau eu cynnyrch cyntaf heddiw ar ffurf EP.

‘Kim y Syniad’ ydy enw’r casgliad o bum cân sy’n mynd i fod ar werth o heddiw (15 Medi) ymlaen.

Er eu bod nhw’n grŵp ifanc mae Candelas efo’i gilydd ac yn gigio ers dros ddwy flynedd bellach ond yn teimlo bod yr EP newydd yn gyfle i godi’r band i’r lefel nesaf o fewn y sin.

“Mae rhyddhau’r EP yn golygu llawer iawn achos gobeithio ei fod yn ein symud ‘mlaen o fod yn fand sydd yn gigio pryd da ni’n medru i fod yn fand sydd efo pwrpas,” meddai un o’r aelodau, Ifan Jones, wrth Golwg360.

“Hynny ydy mae ‘na pwrpas i’r gigio rŵan, sef hyrwyddo’r EP a symud i fyny’r ysgol yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.”

Methu penderfynu ar sŵn

Anghytuno mewnol ynglŷn â thrywydd cerddorol y band sydd ar fai am beidio rhyddhau deunydd ynghynt yn ôl Ifan Jones.

“Yr unig reswm ei fod o wedi cymryd mor hir ydi achos ein bod wedi bod yn cwffio efo ni’n hunain ynglŷn â’r trywydd neu’r sŵn da ni isho’i gyfleu.

“Odda ni’n fand pop, neu’n fand llawer trymach. Mae’r EP yn rhoi sylfaen dda i ni ddatblygu ac yn dangos i bobol pwy ydi Candelas a sut maen nhw’n swnio.”

Gwaith yn y garej

Mae ‘na elfen o DIY i’r EP newydd gan iddo gael ei recordio yng ngarej Osian, drymiwr Candelas dros y Pasg ac mae’r grŵp wedi ceisio creu sŵn byw iawn i’r recordiad.

“Gath o’i recordio i gyd yn fyw oni bai am y vocals gan ein bod ni’n llawer gwell yn dilyn ein gilydd na trwy ryw fetronom mewn headphones,” meddai Ifan.

“Oeddan ni hefyd yn hoffi’r her o gael popeth yn berffaith mewn un take.”

“Fe wnaethon ni hefyd wneud y cymysgu a mastro i gyd ein hunain gan ein bod ni’n gwybod sut oeddan ni isho iddo fo swnio.”

Hydref prysur o gigio

Mae’r grŵp yn ceisio chwarae cymaint o gigs a phosib i hyrwyddo’r casgliad newydd ac yn ceisio trefnu gig bob penwythnos rhwng hyn a’r Nadolig.

“Da ni’n gobeithio rhyddhau Sengl neu ddwy yn fuan ar ôl hynny a chael albwm yn barod erbyn rhyw ben blwyddyn nesaf.”

Sampl o’r EP~EP PEEK! by candelas