Mae dyn o Bowys wedi cael ei ladd yn ynys Cyprus ar ôl cael ei daro gan gar.

Yn ôl heddlu’r ynys, mi gafodd y dyn 39 oed, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Charlie Birch, ynghyd â’i ffrind 32 oed, eu taro gan gar wrth iddyn nhw gerdded ar hyd ffordd ger Paphos am 2.30yb.

Bu farw yn y fan a’r lle, gyda’i ffrind yn cael ei gludo i’r ysbyty, lle mae ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth am fân anafiadau.

Mae dyn 35 oed a dynes 23 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio.

Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor wedi dweud eu bod nhw’n cynnig “cymorth a chefnogaeth” i deulu Charlie Birch, ac maen nhw mewn cysylltiad â’r awdurdodau yn Cyprus.