Mae adolygiad sydd wedi’i adael ar wefan TripAdvisor yn honni nad yw caffi ym Machynlleth sy’n dwyn enw merch Owain Glyn Dŵr yn groesawgar “os mai Sais ydych chi”.

Daeth y sylwadau am Caffi Alys, sydd drws nesaf i’r senedd-dŷ hanesyddol yng Nghanolfan Owain Glyn Dŵr, gan unigolyn o’r enw Simon P o Ddolgellau ddydd Sadwrn (Mehefin 23).

Fe ddaw ar ddiwedd yr wytnos pan gafodd tafarn Y Siôr yn Bethesda adolygiad sâl ar yr un wefan gan gwsmer dienw a oedd yn honni fod y locals wedi troi i siarad Cymraeg y munud y daeth o a’i gyd-gerddwyr i fewn.

“Roedd y coffi a gafodd ei weini yn iawn, ond yn ddim byd arbennig, ond doedd dim croeso,” meddai’r neges am Caffi Alys.

“Fe sylweddolon ni’n eitha’ cyflym ein bod ni wedi cerdded i ganol noddfa i’r iaith Gymraeg.

“Fe wnaethon ni ddewis gwneud Cymru’n gartref sawl blwyddyn yn ôl, gan fwynhau’r ffaith fod yr iaith yn profi adfywiad, ond dyma’r tro cyntaf i ni deimlo nad oes croeso i ni yn rhywle.”

O ddifri?

Mae’r caffi wedi postio llun o’r adolygiad ar eu tudalen Facebook gyda’r is-bennawd “Seriously?… O ddifri?…”

Ac wrth ymateb, mar nofelydd Manon Steffan Ros wedi beirniadu’r adolygiad o’r ganolfan sydd yn cynnal nosweithiau comedi Cymraeg yn ystod gŵyl gomedi flynyddol y dref, yn ogystal â llu o ddigwyddiadau eraill.

“Diolch i Gaffi Alys am fod yn hafan o ffeindrwydd, coffi a bwyd hyfryd a Chymreictod hollol naturiol,” meddai ar ei thudalen Facebook.

“Mae ’na groeso i bawb yna o hyd, mae o’n awyrgylch hollol gynhwysol. Plis cefnogwch y caffi yma. Dim jest am ei fod o’n Gymraeg, ond am ei fod o’n lyfli.”