Mae enwad yng Nghymru’n lansio apêl i godi arian i sefydlu cartref plant ym Madagasgar – ddwy ganrif union ers i’w cenhadon cyntaf fentro o Ddyffryn Aeron i’r wlad yn nwyrain Affrica.
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynnal ei gyfarfod blynyddol yn y dref lan y mor yr wythnos hon, ac yn cynnwys yn ei raglen o weithgareddau ddigwyddiadau i gofio David Jones o Neuadd-lwyd.
Pwrpas yr apêl – a fydd yn para rhwng Mehefin eleni hyd fis Mehefin 2019 – yw codi arian at wahanol brosiectau ym Madagascar, sy’n cynnwys:
- cartref plant;
- noddi coleg diwinyddol i hyrwyddo prosiect gofalu am yr amgylchedd;
- sicrhau mwy o ddeintyddion a meddygon.
Cysylltiad Cymru a Madagasgar
Mae’r lansiad yn cyd-fynd â Chyfarfod Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cael ei gynnal yn Aberaeron yr wythnos hon er mwyn dynodi 200 mlynedd ers i genhadon ifanc o’r ardal adael ar fordaith i Fadagasgar.
Yn ôl Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, mae’r apêl hon yn fodd o “gadw’r cysylltiad” rhwng Cymru a Madagasgar.
“Mae’r cysylltiad rhwng Cymru a Madagasgar yn mynd yn ôl i 1818, pan aeth y cenhadon fynd o ardal Neuadd-lwyd ac Aberaeron i Fadagasgar,” meddai wrth golwg360.
“Ers hynny, mae yna lu o genhadon wedi bod o Gymru i Fadagasgar, a’r peth pwysig i ni yn y cysylltiad yma yw mai Annibynwyr oedd y cenhadon cyntaf.
“Felly rydan ni wedi cadw’r cysylltiad am ddau gan mlynedd efo Madagasgar, ac eleni rydan ni am ddathlu’r ddau ganmlwyddiant.”
Wythnos o ddathlu
Fel rhan o’r dathliadau, mi fydd sioe arbennig o’r enw Y Freuddwyd yn cael ei chynnal nos Wener ar fferm Pen-rhiw yn Neuadd-lwyd, sef cartref un o’r cenhadon, David Jones.
Mae’r sioe wedi cael ei threfnu gan aelodau o eglwysi annibynnol yr ardal, ac yn cynnwys actorion lleol. Fe fydd cyngerdd ddathlu arbennig hefyd yn digwydd ar y nos Sadwrn, lle bydd artistiaid o Gymru a Madagascar yn cymryd rhan.
Yn glo i’r dathliadau wedyn, fe fydd oedfa arbennig yng Nghapel Neuadd-lwyd ddydd Sul ar gyfer y tua 80 o ymwelwyr sydd wedi dod o Fadagasgar.
Fe fyddan nhw hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai i sefydlu cysylltiadau parhaol rhwng eglwysi Cymru a Madagasgar.