Mae’r BBC yn gadael eu stiwdios enwog yn Maida Vale, er mwyn symud i fewn i ddatblygiad newydd yn nwyrain Llundain.
Ymhlith yr enwau mawr sydd wedi recordio yno y mae’r Beatles, Beyonce, David Bowie a Jimi Hendrix.
Fe gafodd yr adeilad yng ngorllewin Llundain ei godi’n wreiddiol yn 1909, yn gartref i glwb sglefrolio, cyn dod yn gartref i Gerddorfa Symffoni y BBC yn y 1930au.
Fe fu hefyd yn gartref i raglenni Peel Sessions y diweddar droellwr disgiau, John Peel ar Radio 1, ac yno y cafodd cerddoriaeth agoriadol rhaglen Doctor Who ei recordio’n wreiddiol.
Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, wedi dweud mewn nodyn at aelodau staff y Gorfforaeth: “Dw i’n deall faint mae ein hanes cerddorol yn Maida Vale yn ei olygu i ni ac i’n cynllueidfaoedd.
“Dydyn ni ddim wedi gwneud y penderfyniad hwn yn ysgafn,” meddai wedyn. “Rydyn ni’n benderfynol ein bod eisiau gwneud yn siwr fod cerddoriaeth fyw yn rhan ganolog o’r BBC, ac fe fydd symud i ganol datblygiad newydd yn rhoi’r cyfle i ni wneud hynny.”