Mae cyn-reolwr Theatr Felin-fach yng Ngheredigion yn dweud bod y panto enwog sy’n cael ei gynnal ganddi bob blwyddyn yn fodd o “feithrin arweinwyr cymdeithas”.
Mae Panto Felin-fach yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed eleni, ac mewn digwyddiad arbennig yn Theatr Felin-fach heno mi fydd cyfle i’r rhai fu’n rhan o’r cynhyrchiad dros y blynyddoedd rannu eu hatgofion.
Ac yn ôl Euros Lewis, a fu’n gyfrifol am sgriptio a chynhyrchu’r cynhyrchiad am bron 25 mlynedd, mae Panto Felin-fach yn fwy na dim ond “perfformwyr da, actorion a cherddorion”.
“Y peth mwya’ pwysig yw faint o feddylie creadigol sy’n cael ei feithrin yma,” meddai wrth golwg360.
“Faint o bobol sy’n mynd ymlaen i sefydlu busnese neu’n cymryd at awene y ffarm deuluol? Faint sy’n dod yn arweinwyr yn eu cymdeithas gyda’r Ffermwyr Ifanc? Faint sy’n dod yn gynghorwyr bro a chynghorwyr sir neu’n swyddogion addysg ac athrawon? Y bobol hynny sy’n cyfrannu at gymdeithas.”
“Panto Cymreig”
Mae Euros Lewis yn dweud mai’r hyn sy’n gwneud Panto Felin-fach yn arbennig yw’r ffaith ei fod yn “banto Cymreig, ac nid panto Cymraeg yn unig,” meddai.
Mae hefyd yn dweud bod gwreiddiau’r cynhyrchiad yn y cyfnod cyn i’r theatr fawr gael ei hadeiladu yn Felin-fach yn 1972, gyda phantomeimiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan y Ffermwyr Ifanc a chwmnïau drama lleol.
“Mi oedd yna bantomeim yn Gymraeg wedi cael ei wneud yng Nghaerwedros yn 1967 gan y Ffermwyr Ifanc, ac roedd e’n bantomeim a oedd yn trosi’r peth Saesneg i mewn i’r Gymraeg, ac yn dechrau arloesi mewn i genre newydd.
“Ond y peth pwysig sy’n digwydd yn Felin-fach yw ei fod e’n cael ei wneud yn bantomeim Cymreig. Nid pantomeim yn Gymraeg yw Panto Felin-fach o’r dechrau, mae’n bantomeim Cymreig.
“Mae J R Evans a T Llew Jones yr awduron yn gwneud yr un peth tua’r un adeg, gyda Twm Siôn Cati a Siôn Cwlit a straeon fel’na. Maen nhw’n cymryd straeon Cymreig ac yn eu mynegi nhw mewn ffordd sydd yn Gymraeg, nid yn unig o ran iaith, ond o ran meddylfryd hefyd.”
Dyma Euros Lewis yn esbonio mwy am hanes ‘Panto Felin-fach’