Mae’r dewis o artist i gynrychioli Cymru yn un o’r gwyliau celf mwyaf yn y byd, wedi cael ei feirniadu’n chwyrn gan artist arall.
Y bore yma, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru mai Sean Edwards o Gaerdydd fydd yno ar ran y prosiect Cymru yn Fenis, ar gyfer yr ŵyl ryngwladol, La Biennale di Venezia, yn 2019.
Ond mae Kathryn Ashill wedi beirniadu dewis “dyn gwyn arall”, gan ddweud mai dim ond un fenyw sydd wedi’i dewis ers 2005, ac nad oes yr un artist o gefndir ethnig wedi’i ddewis.
“Oedd ganddo ni ddim genod Cymraeg sy’n creu oedd yn gallu arddangos? Ers 2005 un fenyw sy wedi derbyn y platform a dim un person o liw. Da iawn,” meddai’r artist ar Twitter.
Mae Cymru wedi bod yn anfon artistiaid i’r digwyddiad yn yr Eidal bob blwyddyn ers 2003.
“Hollol embarrassing i Gymru”
“Mae’n bwysig i fi ddweud,” meddai Kathryn Ashill wrth golwg360, “dyw e ddim byd i wneud â gwaith yr artist yn benodol ond y ffaith mai ers 2005, dim ond un arddangosfa solo i fenywod ni wedi cael a dim ond un fenyw arall sydd wedi dangos fel rhan o sioe grŵp yn 2007.
“Mae fe’n hollol embarrassing i Gymru, achos yr un fath o ddynion – sydd wedi cael eu sefydlu, efo pherthnasau efo orielau neu guradur yn barod…. yr un fath o artist sy’n cael ei ddangos wedyn. Mae e yn ein tynnu ni’n ôl.
“Mae’n dweud lot am fyd celf Cymru ar hyn o bryd achos mae sawl menyw yn gwneud gwaith anhygoel yng Nghymru, gwaith cyfoes anhygoel a dylen nhw gael y llwyfan, neu rywun o liw, neu rywun queer, maen nhw jyst yn ffocysu ar ddynion gwyn o oedran penodol.”
Dywed yr artist 33 oed, sy’n dod o Bontardawe yn wreiddiol ac sy’n astudio at Ddoethuriaeth ym Manceinion ar hyn o bryd, fod rhywbeth o’i le gyda’r broses ddewis os nad oes digon o fenywod yn ymgeisio.
Mae golwg360 yn deall bod cadeirydd y pwyllgor dethol yn ddynes groenddu.
Sean Edwards
Bydd Sean Edwards yn cynnal arddangosfa yn yr ŵyl am chwe mis, rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2019, ar y cyd ag oriel Tŷ Pawb yn Wrecsam, gyda’r curadur Marie-Anne McQuay.
Yn gerflunydd sy’n cyfuno gwrthrychau, ffilm, fideo, ffotograffau, llyfrau a pherfformiad yn ei waith, bydd yr arddangosfa yn canolbwyntio ar ei ddiddordeb mewn dosbarth cymdeithasol a bywyd bob dydd, dan ddylanwad ei brofiadau o gael ei fagu ar stad tai cyngor ar gyrion Caerdydd yn yr 1980au.
Mae’n ddarlithydd Celf Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
“Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm rhagorol yn Nhŷ Pawb, y cynhyrchydd annibynnol Louise Hobson a chyda’r curadur Marie-Anne McQuay,” meddai Sean Edwards.
“Mae cael y cyfle i lunio arddangosfa fel a gynigiais yn un peth ond mae cael gwneud hyn dan faner Cymru yn Fenis yn gyfle anhygoel.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Celfyddydau Cymru i sylwadau Kathryn Ashill.