Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo gan yr heddlu yn dilyn digwyddiad â char yng Nghasnewydd ddydd Sul diwethaf (Ebrill 29).

O’r pedwar a gafodd eu dwyn i’r ddalfa ers y digwyddiad ei hun, lle gyrrwyd car trwy dyrfa o bobol, mae’r heddlu wedi cyhuddo dau ddyn 18 a 19 oed.

Mae’r dyn 18 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio a gyrru’n beryglus, tra bo’r dyn 19 oed wedi’i gyhuddo o achosi cythrwfl.

Mae’r ddau’n parhau yn y ddalfa, ac fe fyddan nhw’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd yn ystod y bore (dydd Mercher, Mai 2).

Mae’r ddau arall, sef dyn 19 oed a merch 22 oed, bellach wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

O’r rheiny a gafodd eu hanfu yn ystod y digwyddiad wedyn, mae dwy ddynes yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ac mae dau arall, sef dyn a dynes, wedi’u rhyddhau.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.