Mae arweinydd y protestiadau yn erbyn y llywodraeth yn Armenia, wedi galw am streic gyffredinol, wedi iddo fethu â chael ei benodi’n Brif Weinidog y wlad.

Fe bleidleisiodd y Senedd yn erbyn penodi Nikol Pashinian yn Brif Weinidog yn dilyn sesiwn naw awr o ddadlau yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Mai 1), a hynny o 55 pleidlais i 45.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Nikol Pashinian wedi bod yn arwain protestiadau yn erbyn lywodraeth Weriniaethol y wlad, ac fe ymgasglodd miloedd o’i gefnogwyr y tu allan i adeilad y senedd yn Yerevan yn ystod y bleidlais.

Ers hynny, mae’r gwleidydd wedi galw ar y wlad i gychwyn ar streic cyffredinol heddiw (dydd Mercher, Mai 2), gan alw ar yr heddlu i ymuno hefyd.

Roedd wedi rhybuddio ei gyd-wleidyddion yn gynharach yn y dydd ddoe y bydd yna “swnamî gwleidyddol” yn digwydd pe na bai’n cael ei ddewis yn Brif Weindog.

Y cefndir

Daw’r bleidlais ddoe yn dilyn ymddiswyddiad Serzh Sargsyan, a oedd yn Arlywydd am 10 mlynedd, o fod yn Brif Weinidog.

Fe fu protestio mawr ar ôl iddo gael ei benodi i’r swydd ychydig ddyddiau ynghynt, gyda nifer yn ei gyhuddo o geisio dal gafael mewn grym.

Yn ôl cyfansoddiad Armenia, mi ddylai ail bleidlais ar ddewis Prif Weinidog newydd gael ei chynnal o fewn wythnos.

Os na fydd ymgeisydd yn cael ei ddewis, yna fe fydd y Senedd yn cael ei diddymu.