Mae Llefarydd presennol Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, yn wynebu galwadau i ymddiswyddo, yn dilyn honiadau newydd o fwlio yn ei erbyn.
Mewn cyfweliad ar raglen Newsnight ar BBC Two neithiwr, fe ddywedodd Angus Sinclair, ei gyn-ysgrifennydd preifat, fod y Llefarydd wedi gweiddi a rhegi arno, ynghyd â tharo ffôn symudol ar ddesg o’i flaen – gan ei dorri’n rhacs.
Fe honnodd hefyd fod John Bercow wedi dweud wrtho ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2010 nad oedd ei angen rhagor, ac wrth ei orfodi i ymddeol yn gynnar, bu raid iddo, meddai, arwyddo cytundeb a oedd yn ei rwystro rhag gwneud cwynion am ei driniaeth yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Ystyried ei safle”
Daw’r cyhuddiadau diweddaraf yn sgil ymchwiliad annibynnol sy’n cael ei gynnal yn San Steffan i honiadau o fwlio staff. Ac wrth gyfeirio at y cyhuddiadau diweddaraf, mae’r AS Ceidwadol, Andrew Bridgen, wedi dweud y dylai’r Llefarydd “ystyried ei safle”.
“Mewn cyfnod pan ydym ni’n edrych am ddiwylliant o newid yn Nhŷ’r Cyffredin mewn cyswllt â bwlio ac aflonyddu, dw i’n meddwl ei bod yn eithaf anodd bod pennaeth y sefydliad hwnnw yn cael ei gysylltu a’r honiadau hyn,” meddai ar raglen Today ar BBC Radio 4.
“Ry’n ni ddim yn gwybod os ydyw wedi camarwain y tŷ tan ein bod ni’n cael ymchwiliad llawn. Ond mae’n dal cymaint o bŵer yn Nhŷ’r Cyffredin fel ei bod yn anodd iawn i gael ymchwiliad annibynnol.”
Dywedodd hefyd fod yna “amgylchedd ofnus a bygythiol tuag at staff” yn bodoli o fewn y sefydliad.
Gwadu’r honiadau
Mewn ymateb i gyhuddiadau Angus Sinclair, mae llefarydd ar ran John Bercow wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
“Mae’r Llefarydd yn gwadu’n gryf nad oes unrhyw sail i’r un o’r cyhuddiadau hyn,” meddai.
“Mae gan y llefarydd dîm ffantastig o staff ffyddlon a gweithgar – gyda phump ohonyn nhw wedi gweithio ag ef yn hapus am gyfnod o dros 40 mlynedd rhyngddyn nhw.”