Mae arlywydd Ffrainc wedi condemnio’r trais fu ar y strydoedd yno ddoe, wrth i 20,000 o brotestwyr orymdeithiol yn ninas Paris a chynnau tanau ar y ffordd.
Mae heddlu Ffrainc wedi cadarnhau fod 109 o bobol yn y ddalfa.
Fe gafodd nwy dagrau ei ddefnyddio er mwyn ceisio cadw rheolaeth ar ralïwyr a oedd yn gwrthdystio yn erbyn polisïau Emmanuel Macron i wneud i ffwrdd â rhai hawliau gweithwyr.
“Mae Mai 1 yn ddiwrnod o ddathliadau rhyngwladol, dyna pryd ydyn ni’n dathlu gweithwyr, nid protestwyr,” meddai Emmanuel Macron.
“Dydyn ni ddim yn poeni’n ormodol am yr hyn ddigwyddodd ddoe,” meddai wedyn. “Rydyn ni’n sefyll yn gadarn. Mae yna lywodraeth, mae yna wladwriaeth, mae yna arweinwyr, ac mae hynny’n para.”
Mae heddlu Paris yn dweud mai ‘ymosodwyr’ yn gwisgo masgiau ac yn eu galw eu hunain y ‘Blocs Duon’ oedd yn gyfrifol am y trais, a bod yna tua 1,200 ohonyn nhw yn rhan o’r torfeydd ddoe.
“Eu bwriad nhw oedd gwneud i’r diwrnod fynd allan o reolaeth,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.