Mae diffoddwyr tân wedi bod yn ceisio diffodd fflamau mewn safle ailgylchu yng Nglannau Dyfrdwy.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 3:15yh ddoe (dydd Mawrth, Mai 1), yn dilyn adroddiadau o dân ar Heol y Ffatri yn Sandycroft, Sir y Fflint.
Bu raid i 50 o ddiffoddwyr tân ddod i’r safle, ac maen nhw wedi bod yn brwydro’r fflamau trwy gydol y nos.
Fe rybuddiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru y cyhoedd i gadw draw, gan ychwanegu bod amodau gyrru ar ffyrdd y A494 a M56 yn wael o ganlyniad i fwg.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio pobol y gall cyflenwad dŵr yn ardal Sandycroft gael ei effeithio, wrth i ddiffoddwyr geisio diffodd y tân.
Mae dau lon gyfagos, sef Heol Gemeg a Heol y Ffatri yn dal i fod ynghau, ac mae diffoddwyr ar y safle o hyd.