Fe gafodd 64 o bobol eu gadael yn hongian yn yr awyr yn Siapan, ar ôl i gerbyd rolercoster ddod i stop sydyn mewn parc adloniant.

Yn ôl Universal Studios yn Osaka, fe dorrodd y reid i lawr hanner ffordd trwy ei daith 1,100m, gyda theithwyr yn hongian rhyw 100m o’r ddaear.

Fe gafodd y teithwyr i gyd eu cludo’n ddiogel o’r reid yn fuan wedyn, ond bu raid i’r teithiwr olaf aros dwyawr cyn cael ei achub.

Mae’r parc wedi ymddiheuro am y digwyddiad, ac yn dweud mai problemau technegol a achosodd y reid i ddod i stop.

Fe ailagorwyd y reid y diwrnod canlynol ar ôl gwaith trwsio.