Port Talbot yw’r ardal fwyaf llygredig yng ngwledydd Ynys Prydain, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dangos bod Port Talbot ymhlith nifer o ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig lle mae’r lefelau o PM2.5 yn uwch na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiogel i iechyd pobol.

Mae’r gronynnau bach hyn yn deillio o drafnidiaeth, diwydiant a gweithfeydd sy’n llosgi glo, pren a gwastraff, ac mae’n gysylltiedig a chlefydau fel clefyd y galon, cancr ar yr ysgyfaint a gwahanol heintiau.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod 7m o bobol yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i ddiffyg aer glân, ac mae naw allan o bob 10 yn gorfod anadlu lefelau peryglus o lygredd sy’n beryglus i’w hiechyd.

Y ffigyrau

Ym Mhort Talbot, fe gafodd 18 meicrogram am bob sgwâr ciwbic o PM2.5 eu cofnodi – bron i ddwywaith y lefel o 10 sy’n cael ei hystyried yn ddiogel gan WHO.

Yn Salford a Scunthorpe, roedd y lefel ar 15, gyda Manceinion ar 13, Lerpwl, Efrog a Birmingham ar 12, a Llundain wedyn ar 11.

Angen gweithredu

Yn ôl Alison Cook, cyfarwyddwr polisi gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, mae angen i’r llywodraeth weithredu yn erbyn un o’r “argyfyngau” mwyaf ym meysydd iechyd a’r amgylchedd yn y Deyrnas Unedig heddiw.

“Ni all camau i leihau’r nifer o ronynnau gwenwynig yn yr aer ry’n ni’n ei anadlu, gael ei oedi rhagor,” meddai.

“Faint rhagor o dystiolaeth sydd angen i ni ei gweld cyn y bydd y llywodraeth yn gosod terfynau cyfreithiol newydd ar lefelau llygredd er mwyn amddiffyn iechyd ysgyfaint y Deyrnas Unedig?”