Mae pobol â gwaed math O yn wynebu risg llawer uwch o farw o anafiadau difrifol, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r math yma o waed yn llai effeithiol na mathau eraill o ran ceulo, ac mae hyn yn medru arwain at ragor o waedu.

Edrychodd ymchwilwyr ar ddata cleifion unedau brys yn Siapan, ac fe ddaeth i’r amlwg bod y gyfradd farwolaeth yn 28% i bobol â gwaed math O, o gymharu ag 11% i’r grwpiau eraill gyda’i gilydd.   

Grŵp gwaed O yw’r math mwyaf cyffredin ymhlith poblogaeth gwledydd Prydain – dyma grŵp gwaed 47% o bobol.

Mae’r math yma o waed yn medru cael ei roi i unrhyw un heb sgil effeithiau, ond mae’r ymchwil yma yn codi cwestiynau ynglyn â pha mor ddiogel ydi hynny mewn gwirionedd.