Mae o leiaf 24 o addolwyr wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad ar fosg yng ngogledd Nigeria.
Bu yna gyfres o ffrwydradau yn ystod yr ymosodiad, gyda sawl person yn marw wrth ffoi wedi’r ail.
Mae trigolion Mubi yn honni iddyn nhw weld dyn ifanc yn gwisgo gwasgod o ffrwydron yn cerdded i mewn i’r mosg ar yr un pryd á’r addolwyr.
Chwalodd to’r mosg gyda grym y ffrwydriadau, yn ôl rhai adroddiadau.
Ac mae rhai eisoes yn beio grŵp brawychol Boko Haram am yr ymosodiad.