Gallai’r cyffur ‘MDMA’ helpu pobol i wella yn dilyn profiad o drawma.

Dyna yw casgliad ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau, yn dilyn arbrawf â dioddefwyr PTSD (post traumatic stress disorder).

Yn ystod yr arbrawf hwn, bu’r dioddefwyr PTSD – cyn-filwyr a dynion tân yn eu plith – yn cymryd dosau gwahanol o’r cyffur: 30mg, 75mg a 125mg.

Ac yn dilyn dau sesiwn o’r driniaeth, fe ddaeth yn amlwg fod mwyafrif helaeth o’r unigolion a gymerodd ddos uwch, wedi gwella.   

Therapi

“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod MDMA yn medru gwella profiadau therapiwtig i’r meddwl,” meddai’r prif ymchwilydd, Dr Allison Feduccia.

“Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn annog unigolion i gymryd y cyffuriau yma i drin eu hanhwylderau meddyliol, heb gymorth arbenigwyr.”

Clybiau nos

MDMA yw un o brif gynhwysion ecstasi – cyffur sy’n creu teimlad o ewfforia, ac yn fwy cyfarwydd i fynychwyr clybiau nos.

Mae MDMA ac ecstasi yn gyffuriau Dosbarth A yn y Deyrnas Unedig, ac mae modd cael eich carcharu am hyd at saith mlynedd am fod â nhw yn eich meddiant.