Mae chweched cerddwr wedi marw yn y Swistir ar ôl i griw o 14 gael eu hamgylchynu gan storm eira annisgwyl yn yr Alpau.

Fe gawson nhw eu gorfodi i dreulio noson allan yn yr oerfel.

Roedden nhw wedi bod yn cerdded yn ardal Pigne d’Arolla, pan darodd y storm.

Roedd pump o’r meirw yn Eidalwyr, ac un ddynes yn dod o Fwlgaria. Bu farw’r chwech o ganlyniad i hypothermia, ar ôl cael eu cludo i’r ysbyty.

Mae un person arall yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.