Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi taflu dŵr oer dros gynlluniau £126.7m cwmni Trinity Mirror i brynu sawl papur newydd, yn cynnwys y Daily Express a’r Daily Star.
Bellach mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Matt Hancock, wedi cadarnhau y bydd yn ymyrryd, yn bennaf oherwydd pryderon am blwraliaeth ac annibyniaeth olygyddol.
Bydd y ddêl yn cael ei chyfeirio at ddau rheoleiddiwr – Ofcom, a’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) – ac mi fyddan nhw’n ystyried ei goblygiadau.
Wedi i’r rheoleiddiwr ddod i gasgliadau ar y mater, fe all Matt Hancock ganiatáu ymchwiliad ehangach.