Mae crwner Ceredigion wedi agor cwest i farwolaeth gwraig oedrannus ganfuwyd yn farw yn ei chartref ger Aberaeron ym mis Mawrth.
Fe dderbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiadau am gyflwr mam a merch o’r ardal ar Fawrth 12, ac yn sgil archwiliad o’u tŷ yn Aberaeron ar Fawrth 19, fe gafodd gweddillion corff eu darganfod, ac fe gludwyd dynes arall i’r ysbyty.
Ar y pryd, fe ddywedodd yr heddlu bod y broses o archwilio wedi bod yn “anodd oherwydd yr amodau tu fewn”, ac roedden nhw’n credu bod y corff wedi bod yno “ers tipyn o amser”.
Erbyn hyn, mae’r corff wedi’i adnabod yn ffurfiol fel un Joan Gertrude Jones, 83 oed.
Daw’r wybodaeth hon wedi i’r crwner dderbyn canlyniadau profion DNA yn yr achos heddiw (dydd Mawrth, Mai 1).
Mae’r cwest wedi’i ohirio.