Mae adeilad gwag wedi’i feddiannu gan sgwatwyr yn Sao Paulo, wedi dymchwel yn dilyn tân.

Mae gweddillion wedi taro adeiladau cyfagos ac wedi llenwi strydoedd eraill yn y ddinas yn Brasil.

Mae ymladdwyr tân wedi cadarnhau fod o leiaf un person wedi’i ladd yn y digwyddiad, ond maen nhw’n rhybuddio y gallai’r nifer godi.

Fe gynheuodd y tân yn hen bencadlys yr heddlu ffederal yn Sao Paulo, tua 1.30yb amser lleol.

Ychydig oriau’n ddiweddarach, wrth i’r fflamau larpio beth bynnag 20 llawr yr adeilad, fe ddymchwelodd y cyfan.