Mae Cyngor Powys wedi cydnabod bod angen iddyn nhw gyflwyno “gwelliannau” i’w gwasanaethau i oedolion.

Daw hyn wedi i arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ddod i’r casgliad bod yna “feysydd sylweddol i’w gwella” gan yr awdurdod lleol.

Ymchwiliodd y corff i ddarpariaeth y Cyngor ym mis Ionawr eleni, wedi i bryderon gael eu codi gan bobol sy’n defnyddio’r gwasanaethau, aelodau o’r cyhoedd ac Aelodau Cynulliad.

Yn sgil ei harolygiad, mae’r AGC wedi dod i’r casgliad bod yna ddiffyg cysondeb a phroblem o “oedi sylweddol” dan y drefn sydd ohoni.

Ymateb y Cyngor

“Mae gennym gynllun gwella cynhwysfawr yn ei le ar gyfer gwasanaethau oedolion ers peth amser,” meddai Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Powys.

“R’yn ni wedi darparu adnoddau arwyddocaol i’n galluogi i wneud y newidiadau angenrheidiol ac mae’r arolygwyr wedi cydnabod hyn.

“R’yn ni’n cydnabod bod rhaid i ni wneud gwelliannau ac yn ffyddiog bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda.”